- Cartref
- Safonau
- Safonau ar gyfer busnesau optegol (yn weithredol o 1 Ionawr 2025)
- 2.4 Mae cyfrinachedd yn cael ei barchu
Safonau ar gyfer Busnesau Optegol
2.4 Mae cyfrinachedd yn cael ei barchu
Pam fod angen y safon hon?
Mae parchu cyfrinachedd yn egwyddor sylfaenol gofal iechyd: mae claf yn ymddiried yn ei weithiwr gofal iechyd proffesiynol ac yn disgwyl yn rhesymol i’r wybodaeth honno gael ei chadw’n breifat a pheidio â’i datgelu i eraill yn ddiangen neu’n anghyfreithlon. Mae'r ddyletswydd hon hefyd yn berthnasol i'r wybodaeth sydd gennych am eich staff. Eich rôl fel busnes optegol yw darparu amgylchedd sy'n hwyluso parchu cyfrinachedd, tra'n sicrhau y gellir gwneud datgeliadau priodol lle mae gwneud hynny er budd y cyhoedd. I gyflawni hyn, mae eich busnes:
2.4.1 Yn darparu system ar gyfer cynnal cofnodion cleifion sy'n ddiogel ac yn hygyrch i'r rhai sydd angen eu gweld yn unig. Mae hyn yn berthnasol i Gofnodion papur ac electronig.
2.4.2 Yn gallu darparu preifatrwydd ar gyfer gofal cleifion pan fo angen.
2.4.3 Cadw gwybodaeth am staff a recriwtio yn ddiogel ac yn gyfrinachol.
2.4.4 Diweddaru systemau storio yn briodol (gan gynnwys storio cofnodion papur ac electronig) i gynnal diogelwch.
2.4.5 Cefnogi staff i drechu cyfrinachedd cleifion pan fo gwneud hynny er budd y cyhoedd. Dylai hyn gynnwys canllawiau i staff ar sut i ddatgelu gwybodaeth i awdurdod priodol a dogfennu datgeliadau o'r fath.