Ein cynllun strategol

Mae ein strategaeth 'Addas ar gyfer y dyfodol' ar gyfer 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2025 yn disgrifio'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf i gyflawni ein gweledigaeth o gael ein cydnabod am ddarparu rheoleiddio o'r radd flaenaf a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.

Y tri phrif amcan strategol yw:

  • Cyflwyno arferion rheoleiddio o'r radd flaenaf
  • Trawsnewid gwasanaeth cwsmeriaid
  • Adeiladu diwylliant o welliant parhaus

Lawrlwythwch gopi o'n cynllun strategol 'Addas ar gyfer y Dyfodol' i gael rhagor o wybodaeth.

Cynllun Busnes 2023-24

Mae ein Cynllun Busnes ar gyfer 2023-24 yn nodi pedwaredd flwyddyn ein cynllun strategol 'Addas ar gyfer y Dyfodol'. O fewn y Cynllun Busnes hwn, rydym yn tynnu sylw at rai o'r rhaglenni gwaith allweddol rydym yn anelu at eu cyflawni eleni i gyflawni ein gweledigaeth a nodir yn y cynllun strategol.

Mae hyn yn cynnwys gwaith i ddiogelu'r cyhoedd a chynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiynau a'r busnesau rydym yn eu rheoleiddio, gan ganolbwyntio o'r newydd ar gynnig gwasanaethau o ansawdd uchel i'n cofrestryddion, a chefnogi gweithwyr proffesiynol gofal llygaid i gyfrannu at eu gallu proffesiynol llawn er budd cleifion. Mae hefyd yn nodi sut rydym yn paratoi ar gyfer diwygio rheoleiddio a buddsoddi yn ein sefydliad fel ei fod yn 'addas ar gyfer y dyfodol'.

Darllenwch Gynllun Busnes a Chyllideb 2023-24.