- Cartref
- Safonau
- Safonau ar gyfer busnesau optegol (yn weithredol o 1 Ionawr 2025)
- 2.3 Mae gennych system lywodraethu ar waith
Safonau ar gyfer Busnesau Optegol
2.3 Mae gennych system lywodraethu ar waith
Pam fod angen y safon hon?
Mae llywodraethu clinigol yn ddull systematig o gynnal a gwella ansawdd gofal cleifion o fewn darparwyr gofal iechyd. Rydych chi'n ddarparwr gwasanaeth gofal iechyd ac felly mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod y gofal rydych chi'n ei ddarparu i gleifion o ansawdd da ac yn gwella'n barhaus. I gyflawni hyn, mae eich busnes:
2.3.1 Yn meddu ar system sy'n briodol i'ch ymarfer, sy'n galluogi staff i adolygu a myfyrio ar eu gwaith a nodi a rhannu arfer da neu lle mae angen gwelliannau.
2.3.2 Yn dysgu o gamgymeriadau a wneir gan eich sefydliad a'ch staff a, lle mae'n bosibl gwneud hynny, yn rhoi mecanweithiau ar waith i atal hyn rhag digwydd eto.
2.3.3 Yn archwilio cofnodion cleifion i nodi themâu a materion ac yn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon sy'n codi er mwyn sicrhau cysondeb ac ansawdd gofal cleifion. Dylai'r dull a ddefnyddir fod yn briodol ac yn gymesur â'ch busnes.