Safonau ar gyfer myfyrwyr optegol

9. Gweithio ar y cyd â'ch cyfoedion, tiwtoriaid, goruchwylwyr neu gydweithwyr eraill er budd cleifion

  1. Gweithio ar y cyd â'ch cyfoedion, tiwtoriaid, goruchwylwyr, cydweithwyr eraill yn y proffesiynau optegol ac ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill er budd gorau eich cleifion, gan sicrhau bod eich cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol.
  2. Sicrhau bod gwybodaeth am gleifion yn cael ei rhannu'n briodol ag eraill, a bod cofnodion clinigol yn hygyrch i bawb sy'n ymwneud â gofal y claf.
  3. Pan fydd anghytundebau yn digwydd rhyngoch chi, eich tiwtor, cyfoedion neu gydweithwyr eraill, sicrhewch nad yw'r rhain yn effeithio ar ofal cleifion a'u bod yn anelu at ddatrys y rhain er budd y claf.