Safonau ar gyfer myfyrwyr optegol

5. Cydnabod a gweithio o fewn eich terfynau cymhwysedd

  1. Cydnabod terfynau eich cwmpas o hyfforddiant gan gynnwys eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad.
  2. Gallu nodi pryd mae angen i chi gyfeirio at eich tiwtor neu oruchwyliwr i gael cyngor ac arweiniad pellach.
  3. Deall a chydymffurfio â gofynion cofrestru myfyrwyr gyda'r Cyngor Optegol Cyffredinol a'r rhwymedigaethau cyfreithiol o ymgymryd ag unrhyw swyddogaethau cyfyngedig.