- Cartref
- Safonau ac arweiniad
- Safonau ar gyfer busnesau optegol
- 1.3 Cyfathrebu yn glir ac yn effeithiol
Safonau ar gyfer Busnesau Optegol
1.3 Cyfathrebu yn glir ac yn effeithiol
Pam fod angen y safon hon?
Mae cyfathrebu clir â chleifion yn hanfodol er mwyn gallu darparu gofal addas iddynt a sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau am eu gofal iechyd eu hunain. Mae hefyd yn bwysig eu bod yn gwybod beth y gallant ei ddisgwyl gan eu gofal optegol a bod ganddynt ddealltwriaeth realistig o'r hyn y gellir ei ddarparu fel y gellir rheoli eu disgwyliadau. I gyflawni hyn, mae eich busnes:
1.3.1 Darparu gwybodaeth sy'n hygyrch i gleifion mewn ffordd y maent yn ei deall, gan ystyried anghenion a gofynion unigol. Gallai hyn gynnwys yr hyn a allai fod yn angenrheidiol mewn cyd-destunau penodol megis gofynion wrth ddarparu gwasanaethau GIG; anghenion ychwanegol y claf megis anabledd dysgu; ac unrhyw anawsterau lleferydd neu gyfathrebu.
1.3.2 Sicrhau, cyn belled ag y bo modd, nad yw pwysau gweithredol neu fasnachol yn atal staff rhag rhoi'r amser sydd ei angen ar gleifion i brosesu unrhyw wybodaeth a roddir iddynt a'r cyfle i newid eu meddwl.
1.3.3 Yn darparu, neu'n sicrhau bod gwybodaeth ar gael i staff, i gleifion am unrhyw newid i'w cynhyrchion neu gyfarpar rhagnodedig, er mwyn sicrhau bod cleifion yn gallu penderfynu ar eu gofal eu hunain.
1.3.4 Cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys cleifion, gofalwyr, cydweithwyr proffesiynol ac eraill.
1.3.5 Rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar gleifion neu ofalwyr i allu defnyddio, rhoi neu ofalu am feddyginiaethau neu ddyfeisiau meddygol (gan gynnwys meddalwedd a thechnolegau eraill) y maent wedi'u rhagnodi neu eu cyfarwyddo i'w defnyddio er mwyn rheoli eu cyflyrau llygaid. .
1.3.6 Yn darparu gwybodaeth sensitif gyda gofal a thosturi.