- Cartref
- Safonau ac arweiniad
- Safonau ar gyfer busnesau optegol
- 1.1 Gall cleifion ddisgwyl bod yn ddiogel yn eich gofal
Safonau ar gyfer Busnesau Optegol
1.1 Gall cleifion ddisgwyl bod yn ddiogel yn eich gofal
Eich cleifion
Pam fod angen y safon hon?
Mae hybu diogelwch cleifion wrth galon pob gofal iechyd. Dylai claf allu ymddiried yn ei ddarparwr gofal iechyd i flaenoriaethu ei ddiogelwch fel y gall dderbyn y gofal gorau posibl. Agwedd bwysig ar hyn yw na ddylai busnesau optegol atal y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y maent yn eu cyflogi neu'n contractio â nhw rhag bodloni eu safonau proffesiynol eu hunain. I gyflawni hyn, rhaid i'ch busnes:
1.1.1 Yn deall ei gyfrifoldebau cyfreithiol a phroffesiynol i ddiogelu cleifion rhag cam-drin ac yn sicrhau ei fod ef a'i staff yn barod ac yn cael eu cefnogi i wneud hynny.
1.1.2 Yn meddu ar broses i staff roi gwybod am unrhyw bryderon diogelu a'u hannog i wneud hynny.
1.1.3 Mynd i'r afael yn brydlon â phryderon am gydweithwyr, busnesau neu sefydliadau eraill os gallai diogelwch cleifion neu'r cyhoedd fod mewn perygl. Efallai y byddwch chi neu'ch staff yn nodi'r pryderon hyn.
1.1.4 Uwchgyfeirio neu adrodd am bryderon sy'n effeithio ar ddiogelwch cleifion neu'r cyhoedd, lle na all eich busnes fynd i'r afael â nhw, i awdurdod priodol ac yn annog eraill i wneud yr un peth.
1.1.5 Yn gwneud staff yn ymwybodol, lle maent wedi codi pryderon nad ydynt wedi'u datrys o fewn y busnes, y gallant uwchgyfeirio'r rhain neu adrodd arnynt i awdurdod uwch megis rheolydd proffesiynol (chwythu'r chwiban) a bod rhai agweddau o hyn wedi'u diogelu gan y gyfraith.
1.1.6 Sicrhau, wrth gyflwyno ymyriadau technolegol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI) a dysgu peirianyddol, nad ydynt yn peryglu gofal cleifion, a bod safonau proffesiynol yn parhau i gael eu bodloni.
1.1.7 Ystyried a oes angen gwiriadau cofnodion troseddol ar ei aelodau staff yn dibynnu ar eu rolau penodol a/neu amlygiad i gleifion, yn enwedig plant ac oedolion agored i niwed. Mae’r broses ar gyfer cynnal gwiriadau o’r fath yn amrywio ar draws pedair gwlad y DU.
1.1.8 Yn barod i gyfyngu ar fasnachu mewn meysydd sy'n peri pryder pe byddai parhau i wneud hynny yn effeithio'n andwyol ar ofal cleifion.
1.1.9 Cymryd camau priodol i amddiffyn cleifion, y cyhoedd a'ch cyflogeion, os oes tystiolaeth i ddangos efallai nad yw aelod o staff neu fyfyriwr yn addas i ymarfer, hyfforddi neu weithio.
1.1.10 Sicrhau nad yw unrhyw dargedau gweithredol neu fasnachol yn cael effaith andwyol ar ofal cleifion.