Safonau ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu

9. Sicrhau bod goruchwyliaeth yn cael ei chyflawni'n briodol ac yn cydymffurfio â'r gyfraith

Mae hyn yn berthnasol i oruchwylio hyfforddeion cyn-gofrestru a chydweithwyr anghofrestredig sy'n ymgymryd â gweithgareddau dirprwyedig.

Mae'r cyfrifoldeb i sicrhau nad yw goruchwyliaeth yn peryglu gofal a diogelwch cleifion yn cael ei rannu rhwng y goruchwyliwr a'r rhai sy'n cael eu goruchwylio. Mae goruchwyliaeth ddigonol yn gofyn i chi:

  1. Bod yn ddigon cymwys a phrofiadol i ymgymryd â'r swyddogaethau rydych yn eu goruchwylio.
  2. Dim ond dirprwyo i'r rhai sydd â chymwysterau, gwybodaeth neu sgiliau priodol i gyflawni'r gweithgaredd dirprwyedig.
  3. Bod ar y safle, mewn sefyllfa i oruchwylio'r gwaith a wnaed ac yn barod i ymyrryd os oes angen er mwyn diogelu cleifion.
  4. Cadw cyfrifoldeb clinigol ar gyfer y claf. Wrth ddirprwyo, byddwch yn cadw cyfrifoldeb am y dasg ddirprwyedig ac am sicrhau ei bod wedi'i chyflawni i'r safon briodol.
  5. Cymryd pob cam rhesymol i atal niwed i gleifion sy'n deillio o weithredoedd y rhai sy'n cael eu goruchwylio.
  6. Cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol sy'n rheoli'r gweithgaredd.
  7. Sicrhau bod manylion y rhai sy'n cael eu goruchwylio neu'n cyflawni gweithgareddau dirprwyedig yn cael eu cofnodi ar y cofnod cleifion.