Safonau ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu

18. Ymateb i gwynion yn effeithiol

  1. Gweithredu system gwyno neu ddilyn y system sydd gan eich cyflogwr ar waith, gan wneud cleifion yn ymwybodol o'u cyfleoedd i gwyno i chi'ch hun neu'ch cyflogwr. Ar yr adeg briodol yn y broses, dylid hysbysu'r claf hefyd o'u hawliau i gwyno i'r Cyngor Optegol Cyffredinol neu geisio cyfryngu trwy'r Gwasanaeth Cwynion Defnyddwyr Optegol.
  2. Parchu hawl claf i gwyno a sicrhau nad yw gwneud cwyn yn rhagfarnu gofal cleifion.
  3. Ymateb yn onest, yn agored, yn gwrtais ac yn adeiladol i unrhyw un sy'n cwyno ac yn ymddiheuro lle bo hynny'n briodol.
  4. Darparu unrhyw wybodaeth y gallai fod angen i achwynydd ddatblygu cwyn, gan gynnwys manylion cofrestru'r Cyngor Optegol Cyffredinol a manylion unrhyw feysydd ymarfer arbenigol cofrestredig.