Safonau ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu

15. Cynnal ffiniau priodol gydag eraill

  1. Cynnal ffiniau proffesiynol priodol gyda'ch cleifion, myfyrwyr ac eraill yr ydych yn dod i gysylltiad â nhw yn ystod eich ymarfer proffesiynol a chymryd gofal arbennig wrth ddelio â phobl agored i niwed.
  2. Peidiwch byth â cham-drin eich sefyllfa broffesiynol i ecsbloetio neu ddylanwadu'n ormodol ar eich cleifion neu'r cyhoedd, boed hynny'n wleidyddol, yn ariannol, yn rhywiol neu drwy ddulliau eraill sy'n cyflawni eich diddordeb eich hun.