Safonau ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu

1. Gwrandewch ar gleifion a sicrhau eu bod wrth wraidd y penderfyniadau a wneir am eu gofal.

  1. Rhowch eich sylw llawn i gleifion a gadewch ddigon o amser i ddelio â'u hanghenion yn iawn.
  2. Gwrandewch ar gleifion a chymryd eu barn, eu dewisiadau a'u pryderon i ystyriaeth, gan ymateb yn onest ac yn briodol i'w cwestiynau.
  3. Helpu cleifion i arfer eu hawliau a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal. Parchwch y dewisiadau y maent yn eu gwneud.
  4. Trin cleifion fel unigolion a pharchu eu hurddas a'u preifatrwydd. Mae hyn yn cynnwys hawl y claf i gyfrinachedd.
  5. Lle bo'n bosibl, addaswch eich gofal a'ch triniaeth yn seiliedig ar anghenion a dewisiadau eich claf heb beryglu eu diogelwch.
  6. Ystyriwch yr holl wybodaeth a ddarperir gan eich cleifion, gan gynnwys lle maent wedi gwneud gwaith ymchwil cyn yr ymgynghoriad. Esboniwch yn glir os nad yw'r wybodaeth yn ddilys neu'n berthnasol.
  7. Annog cleifion i ofyn cwestiynau a chymryd rhan weithredol yn y penderfyniadau a wneir am eu triniaeth, presgripsiwn ac ôl-ofal.
  8. Cefnogi cleifion i ofalu amdanynt eu hunain, gan gynnwys rhoi cyngor ar effeithiau dewisiadau bywyd a ffordd o fyw ar eu hiechyd a'u lles a'u cefnogi i wneud newidiadau i'w ffordd o fyw lle bo hynny'n briodol.