Safonau ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu

17. Peidiwch â niweidio enw da eich proffesiwn drwy eich ymddygiad

  1. Sicrhewch nad yw eich ymddygiad, p'un a yw'n gysylltiedig â'ch ymarfer proffesiynol ai peidio, yn niweidio hyder y cyhoedd ynoch chi neu'ch proffesiwn.
  2. Sicrhewch nad yw eich ymddygiad yn yr amgylchedd ar-lein, yn enwedig mewn perthynas â'r cyfryngau cymdeithasol, p'un a yw'n gysylltiedig â'ch ymarfer proffesiynol ai peidio, yn niweidio hyder y cyhoedd ynoch chi neu'ch proffesiwn.
  3. Bod yn ymwybodol o'r gyfraith a'r rheoliadau sy'n effeithio ar eich ymarfer, a chydymffurfio â gofynion y Cyngor Optegol Cyffredinol.