- Cartref
- Safonau ac arweiniad
- Safonau ar gyfer myfyrwyr optegol
- 14. Cynnal ffiniau priodol gydag eraill
Safonau ar gyfer Myfyrwyr Optegol
14. Cynnal ffiniau priodol gydag eraill
14.1 Cynnal ffiniau priodol gyda’ch cleifion, myfyrwyr, cydweithwyr ac eraill y mae gennych berthynas broffesiynol â nhw. Mae cynnal ffiniau priodol yn berthnasol i'ch ymddygiad, eich gweithredoedd a'ch cyfathrebiadau.
14.2 Peidiwch byth â chamddefnyddio eich safle proffesiynol i ecsbloetio neu ddylanwadu’n ormodol ar eich cleifion neu’r cyhoedd, boed yn wleidyddol, ariannol, rhywiol neu drwy ddulliau eraill sy’n gwasanaethu’ch lles eich hun.
14.3 Rhaid i chi beidio ag ymddwyn mewn ffordd rywiol digroeso gyda myfyrwyr, cydweithwyr neu eraill y mae gennych berthynas broffesiynol â nhw. Rhaid i chi beidio â chreu amgylchedd bygythiol, diraddiol, bychanol neu dramgwyddus, p'un ai a fwriedir ai peidio. Mae cynnal ffiniau rhywiol yn berthnasol i'ch ymddygiad, eich gweithredoedd a'ch cyfathrebiadau.
14.4 Rhaid i chi beidio ag ymddwyn yn rhywiol â chleifion na thorri eu hurddas. Mae cynnal ffiniau rhywiol yn berthnasol i'ch ymddygiad, eich gweithredoedd a'ch cyfathrebiadau.