- Cartref
- Safonau
- Safonau ymarfer ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu
- 9. Sicrhau bod goruchwyliaeth yn cael ei chyflawni'n briodol ac yn cydymffurfio â'r gyfraith
Safonau ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu
9. Sicrhau bod goruchwyliaeth yn cael ei chyflawni'n briodol ac yn cydymffurfio â'r gyfraith
Mae hyn yn berthnasol i oruchwylio hyfforddeion cyn-gofrestru a chydweithwyr anghofrestredig sy'n ymgymryd â gweithgareddau dirprwyedig.
Mae'r cyfrifoldeb i sicrhau nad yw goruchwyliaeth yn peryglu gofal a diogelwch cleifion yn cael ei rannu rhwng y goruchwyliwr a'r rhai sy'n cael eu goruchwylio. Mae goruchwyliaeth ddigonol yn gofyn i chi:
- Bod yn ddigon cymwys a phrofiadol i ymgymryd â'r swyddogaethau rydych yn eu goruchwylio.
- Dim ond dirprwyo i'r rhai sydd â chymwysterau, gwybodaeth neu sgiliau priodol i gyflawni'r gweithgaredd dirprwyedig.
- Bod ar y safle, mewn sefyllfa i oruchwylio'r gwaith a wnaed ac yn barod i ymyrryd os oes angen er mwyn diogelu cleifion.
- Cadw cyfrifoldeb clinigol ar gyfer y claf. Wrth ddirprwyo, byddwch yn cadw cyfrifoldeb am y dasg ddirprwyedig ac am sicrhau ei bod wedi'i chyflawni i'r safon briodol.
- Cymryd pob cam rhesymol i atal niwed i gleifion sy'n deillio o weithredoedd y rhai sy'n cael eu goruchwylio.
- Cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol sy'n rheoli'r gweithgaredd.
- Sicrhau bod manylion y rhai sy'n cael eu goruchwylio neu'n cyflawni gweithgareddau dirprwyedig yn cael eu cofnodi ar y cofnod cleifion.