Safonau ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu

6. Cydnabod a gweithio o fewn eich terfynau cymhwysedd

  1. Cydnabod a gweithio o fewn terfynau eich cwmpas ymarfer, gan ystyried eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad.
  2. Gallu nodi pryd mae angen i chi atgyfeirio claf er budd iechyd a diogelwch y claf, a gwneud atgyfeiriadau priodol.
  3. Sicrhewch fod gennych y cymwysterau gofynnol sy'n berthnasol i'ch ymarfer.
  4. Deall a chydymffurfio â gofynion cofrestru gyda'r Cyngor Optegol Cyffredinol a'r rhwymedigaethau cyfreithiol o gyflawni unrhyw swyddogaethau a gyfyngir gan y gyfraith, hy profi golwg a gwerthu a chyflenwi dyfeisiau optegol.