Siarad i fyny

F. Ar ôl siarad

58. Os ydych wedi siarad â'ch cyflogwr, gwiriwch y polisi sefydliadol ar yr hyn a ddylai ddigwydd nesaf. Efallai y byddant yn gallu rhoi gwybod i chi yn uniongyrchol pan fyddant wedi cywiro pethau. Mewn amgylchiadau eraill (er enghraifft, os oes materion cyfrinachol yn ymwneud ag unigolyn arall) efallai na fyddant yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Os nad yw'ch cyflogwr yn ceisio cywiro pethau, neu os yw'n ceisio gwneud hynny ond mae diogelwch cleifion/y cyhoedd mewn perygl o hyd, dylech siarad â pherson/sefydliad rhagnodedig fel y nodir uchod yn adran C2.

59. Mewn llawer o amgylchiadau, gellir datrys pryderon a godir ar lefel leol a gellir cael pethau cadarnhaol o fyfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd a sut i osgoi digwyddiad tebyg yn digwydd eto. Mae hon yn rhan bwysig o'r ddyletswydd gonestrwydd ac fe'i nodir yn fanwl yn ein canllawiau gonestrwydd.

60. Rhaid i'ch cyflogwr beidio â gwahaniaethu yn eich erbyn am godi llais yn onest a dilyn y broses briodol i wneud hynny. Os ydych chi'n poeni bod hyn yn digwydd i chi, gofynnwch am gyngor gan eich corff proffesiynol neu sefydliad cynrychioliadol neu gyngor cyfreithiol annibynnol.