Cydsyniad

Caniatâd i rannu gwybodaeth cleifion

  1. Mae gwybodaeth yng nghofnod claf yn ddarostyngedig i ddyletswyddau proffesiynol, moesegol a chyfreithiol cyfrinachedd. Mae'r rhan fwyaf o gleifion yn deall ac yn disgwyl y bydd rhywfaint o wybodaeth gyfrinachol yn cael ei rhannu rhwng gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol er mwyn darparu eu gofal.

Cydsyniad ymhlyg

  1. Fel gweithiwr proffesiynol optegol rheoledig, efallai y byddwch yn dibynnu ar ganiatâd ymhlyg i rannu gwybodaeth gyfrinachol gyda'r rhai sy'n darparu (neu'n cefnogi darparu) gofal uniongyrchol i'r claf os ydych yn fodlon bod y canlynol i gyd yn berthnasol:
    1. mae'r person sy'n cyrchu neu'n derbyn y wybodaeth yn darparu neu'n cefnogi gofal y claf;
    2. mae gwybodaeth ar gael yn rhwydd i gleifion sy'n esbonio sut y bydd eu gwybodaeth yn cael ei defnyddio (er enghraifft, mewn taflenni, posteri, ar wefannau neu wyneb yn wyneb), ac mae ganddynt yr hawl i wrthwynebu;
    3. nid yw'r claf wedi gwrthwynebu; a
    4. bod unrhyw un y datgelir gwybodaeth gyfrinachol iddo yn deall ei bod yn cael ei rhoi iddynt yn gyfrinachol, y mae'n rhaid iddynt barchu hynny.
  1. Ni ddylai cleifion synnu o ddysgu am sut mae eu gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio, ei chyrchu neu ei datgelu. Os yw gwybodaeth yn cael ei defnyddio mewn ffyrdd na fyddai cleifion yn eu disgwyl yn rhesymol, dylech ofyn am ganiatâd penodol ar gyfer hyn gan y claf.
  2. Mae gan y claf yr hawl i'w ddymuniadau gael eu parchu os yw'n gwrthwynebu i wybodaeth bersonol benodol gael ei rhannu o fewn eich tîm gofal iechyd eich hun neu gydag eraill sy'n ymwneud â'i ofal - oni bai y byddai modd cyfiawnhau datgelu er budd y cyhoedd, bod gofyn yn ôl y gyfraith, neu er budd gorau claf nad oes ganddo alluedd i wneud y penderfyniad er mwyn atal niwed.
  3. Os na ellir hysbysu claf am ddatgelu ei wybodaeth, er enghraifft, mewn argyfwng, dylech drosglwyddo gwybodaeth berthnasol yn brydlon i'r rhai sy'n darparu gofal. Os a phryd mae'r claf yn gallu deall, dylech ddweud wrthynt sut y datgelwyd ei wybodaeth bersonol pe bai mewn ffordd na fyddai'n rhesymol ei disgwyl.