8. Cynnal cofnodion cleifion digonol

8.1 Cynnal cofnodion cleifion clir, darllenadwy a chyfoes sydd ar gael i bawb sy'n ymwneud â gofal y claf.

8.2 O leiaf, cofnodwch y wybodaeth ganlynol:

  • 8.2.1 Dyddiad yr ymgynghoriad.
  • 8.2.2 Manylion personol eich claf.
  • 8.2.3 Y rheswm dros yr ymgynghoriad ac unrhyw gyflwr sy'n cyflwyno.
  • 8.2.4 Manylion a chanfyddiadau unrhyw asesiad neu archwiliad a gynhaliwyd.
  • 8.2.5 Manylion unrhyw driniaeth, atgyfeiriad neu gyngor a ddarparwyd gennych, gan gynnwys unrhyw gyffuriau neu offer a ragnodir neu gopi o lythyr atgyfeirio.
  • 8.2.6 Caniatâd a gafwyd ar gyfer unrhyw archwiliad neu driniaeth.
  • 8.2.7 Manylion pawb a oedd yn rhan o'r ymgynghoriad optegol, gan gynnwys enw a llofnod, neu adnabyddiaeth arall o'r awdur.