17. Peidiwch â niweidio enw da eich proffesiwn drwy eich ymddygiad

17.1 Sicrhau nad yw eich ymddygiad, boed yn gysylltiedig â'ch ymarfer proffesiynol ai peidio, yn niweidio hyder y cyhoedd ynoch chi na'ch proffesiwn.

17.2 Sicrhau nad yw eich ymddygiad yn yr amgylchedd ar-lein, yn enwedig mewn perthynas â chyfryngau cymdeithasol, boed yn gysylltiedig â'ch ymarfer proffesiynol ai peidio, yn niweidio hyder y cyhoedd ynoch chi na'ch proffesiwn.

17.3 Byddwch yn ymwybodol o'r gyfraith a'r rheoliadau sy'n effeithio ar eich ymarfer, a holl ofynion y Cyngor Optegol Cyffredinol, a chydymffurfio â nhw.