10. Cydweithio â chydweithwyr er budd cleifion

10.1 Gweithio ar y cyd â chydweithwyr o fewn y proffesiynau optegol ac ymarferwyr gofal iechyd eraill er budd gorau eich cleifion, gan sicrhau bod eich cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol.

10.2 Atgyfeirio claf dim ond lle mae cyfiawnhad clinigol dros hyn, ei wneud er budd y claf ac nad yw'n peryglu gofal na diogelwch y claf. Wrth wneud neu dderbyn atgyfeiriad rhaid iddo fod yn glir i'r ddwy ochr dan sylw pwy sydd â chyfrifoldeb am ofal y claf.

10.3 Sicrhewch fod gan yr unigolion neu'r sefydliadau hynny yr ydych yn cyfeirio atynt y cymwysterau a'r gofrestrfa angenrheidiol fel nad yw gofal cleifion yn cael ei beryglu.

10.4 Sicrhau bod gwybodaeth am gleifion yn cael ei rhannu'n briodol ag eraill, a bod cofnodion clinigol ar gael i bawb sy'n ymwneud â gofal y claf.

10.5 Lle bydd anghytundebau’n codi rhwng cydweithwyr, ceisiwch eu datrys er budd y claf.