16. Byddwch yn onest ac yn ddibynadwy

16.1 Gweithredu gyda gonestrwydd a chywirdeb i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn eich proffesiwn.

16.2 Osgowch neu rheolwch unrhyw wrthdaro buddiannau a allai effeithio ar eich barn broffesiynol. Os yw'n briodol, datganwch fuddiant, tynnwch eich hun yn ôl o'r gwrthdaro a gwrthodwch roddion a lletygarwch.

16.3 Sicrhewch nad yw cymhellion, targedau a ffactorau tebyg yn effeithio ar eich barn broffesiynol. Peidiwch â chaniatáu i fuddiannau ac enillion personol neu fasnachol beryglu diogelwch cleifion.

16.4 Gwnewch yn siŵr nad ydych yn gwneud datganiadau ffug neu gamarweiniol wrth ddisgrifio eich gwybodaeth, profiad, arbenigedd ac arbenigeddau unigol, gan gynnwys trwy ddefnyddio teitlau.

16.5 Byddwch yn onest yn eich trafodion ariannol a masnachol a rhowch wybodaeth glir i gleifion am gostau eich gwasanaethau a'ch cynhyrchion proffesiynol cyn iddynt ymrwymo i brynu.

16.6 Peidiwch â gwneud datganiadau camarweiniol, dryslyd nac anghyfreithlon yn eich cyfathrebiadau na'ch hysbysebu.