15. Cynnal ffiniau priodol gydag eraill

15.1 Cynnal ffiniau priodol gyda'ch cleifion, myfyrwyr, cydweithwyr ac eraill y mae gennych berthynas broffesiynol â nhw. Mae cynnal ffiniau priodol yn berthnasol i'ch ymddygiadau, gweithredoedd a chyfathrebu.

15.2 Peidiwch byth â chamddefnyddio eich safle proffesiynol i fanteisio ar eich cleifion na'r cyhoedd neu ddylanwadu'n ormodol arnynt, boed yn wleidyddol, yn ariannol, yn rhywiol neu drwy ddulliau eraill sy'n gwasanaethu eich budd eich hun.

15.3 Rhaid i chi beidio ag ymwneud ag ymddygiad rhywiol digroeso gyda myfyrwyr, cydweithwyr nac eraill y mae gennych berthynas broffesiynol â nhw. Rhaid i chi beidio â chreu amgylchedd bygythiol, israddol, gwarthus na sarhaus, boed yn fwriadol ai peidio. Mae cynnal ffiniau rhywiol yn berthnasol i'ch ymddygiadau, gweithredoedd a chyfathrebu.

15.4 Ni ddylech ymwneud ag ymddygiad o natur rywiol gyda chleifion na thorri eu hurddas. Mae cynnal ffiniau rhywiol yn berthnasol i'ch ymddygiadau, gweithredoedd a chyfathrebu.