18. Ymateb i gwynion yn effeithiol

18.1 Gweithredu system gwynion neu ddilyn y system sydd gan eich cyflogwr ar waith, gan wneud cleifion yn ymwybodol o'u cyfleoedd i gwyno wrthych chi'ch hun neu'ch cyflogwr. Ar y cam priodol yn y broses, dylid hysbysu'r claf hefyd o'u hawliau i gwyno wrth y Cyngor Optegol Cyffredinol neu i geisio cyfryngu drwy'r Gwasanaeth Cwynion Defnyddwyr Optegol.

18.2 Parchu hawl claf i gwyno a sicrhau nad yw gwneud cwyn yn niweidio gofal cleifion.

18.3 Ymateb yn onest, yn agored, yn gwrtais ac yn adeiladol i unrhyw un sy'n cwyno ac ymddiheuro lle bo'n briodol.

18.4 Darparu unrhyw wybodaeth y gallai fod ei hangen ar achwynydd i symud ymlaen â chwyn, gan gynnwys eich manylion cofrestru gyda'r Cyngor Optegol Cyffredinol a manylion unrhyw feysydd ymarfer arbenigol cofrestredig.