Panel gwrandawiadau

Mae ein holl wrandawiadau yn cael eu cynnal gan Banel Gwrandawiadau annibynnol. Dewisir panel gwahanol ar gyfer pob gwrandawiad ac mae gan bob panel uchafswm o bump o bobl.

Cyfeirir at aelodau'r panel gyda'i gilydd fel y Panel Gwrandawiadau Addasrwydd i Ymarfer ac maent yn ffurfio'r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer a'r Pwyllgor Apelau Cofrestru. Nid ydynt yn aelodau o'r Cyngor .

Caiff aelodau'r panel eu penodi am gyfnod o bum mlynedd, gyda'r opsiwn i wasanaethu am bum mlynedd arall ar gais.

Mae gennym wybodaeth ychwanegol isod sy'n nodi rolau rhai o'r cyfranogwyr a fydd yn bresennol mewn gwrandawiad: