6. Cydnabod a gweithio o fewn eich terfynau cymhwysedd

6.1 Cydnabod a gweithio o fewn terfynau eich cwmpas ymarfer, gan ystyried eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad.

6.2 Gallu nodi pryd mae angen i chi atgyfeirio claf er budd iechyd a diogelwch y claf a gwneud atgyfeiriadau priodol.

6.3 Gwnewch yn siŵr bod gennych y cymwysterau gofynnol sy'n berthnasol i'ch ymarfer.

6.4 Deall a chydymffurfio â gofynion cofrestru gyda'r Cyngor Optegol Cyffredinol a'r rhwymedigaethau cyfreithiol o ymgymryd ag unrhyw swyddogaethau sydd wedi'u cyfyngu gan y gyfraith, e.e., profi golwg a chyflenwi offer.