- Cartref
- Newyddion
- Newyddion a datganiadau i'r wasg
- GOC yn atal optegydd dosbarthu o Betchworth o'r gofrestr
GOC yn atal optegydd dosbarthu o Betchworth o'r gofrestr
Mae’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheolydd y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu atal Holly Bailey, optegydd dosbarthu yn Betchworth, Lloegr, o’i gofrestr am dri mis.
Canfu un o Bwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddwyn. Mae hyn yn ymwneud â chymryd cyflenwad y siop o ddiferyn llygaid meddyginiaeth ar bresgripsiwn yn unig at ddefnydd personol heb y caniatâd priodol. Canfu’r Pwyllgor fod y camau hyn yn anonest ac yn amhroffesiynol.
Mae gan Ms Bailey tan 1 Ionawr 2025 i apelio yn erbyn ei hatal.