Cydsyniad

Argyfyngau

  1. Mewn achos prin o argyfwng, os na allwch gael caniatâd, gallwch ddarparu triniaeth, cymryd camau neu wneud atgyfeiriad sydd er budd gorau'r claf ac sydd ei angen i achub eu golwg neu atal dirywiad yng nghyflwr y claf (mae hyn yn berthnasol i blant, pobl ifanc ac oedolion).
  2. Yr eithriad i hyn yw pan fo penderfyniad ymlaen llaw dilys a chymwysadwy i wrthod triniaeth benodol neu ofal iechyd yn fwy cyffredinol ar waith. O dan yr amgylchiadau hyn, byddai angen i chi barchu dymuniadau'r claf a allai olygu peidio â chymryd unrhyw gamau. Mae’r penderfyniadau ymlaen llaw hyn yn annhebygol iawn o fod yn berthnasol yn y cyd-destun optegol, ond am ragor o wybodaeth gweler y ddeddfwriaeth analluogrwydd berthnasol a’i chod ymarfer neu gofynnwch i’ch darparwr yswiriant indemniad proffesiynol neu gynghorydd cyfreithiol.