Mae'r GOC yn gwahardd optometrydd o Wrecsam o'r gofrestr

Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheoleiddiwr y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu gwahardd Elizabeth Williams, optometrydd sydd wedi'i lleoli yn Wrecsam, o'i gofrestr am ddeuddeg mis.  

Canfu Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddygiad. Mae hyn mewn perthynas â methu â chynnal a/neu gofnodi archwiliadau a methu ag atgyfeirio cleifion yn ddigonol.  

Mae gan Ms Williams tan 13 Mehefin 2025 i apelio yn erbyn ei gwaharddiad.