- Cartref
- Newyddion
- Newyddion a datganiadau i'r wasg
- GOC yn atal optometrydd o Bury o'r gofrestr
GOC yn atal optometrydd o Bury o'r gofrestr
Mae’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheolydd y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu atal Zeeshan Sultan, optometrydd sydd wedi’i leoli yn Bury, o’i gofrestr am chwe mis.
Canfu un o Bwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd collfarn. Ym mis Hydref 2023, cafwyd Mr Sultan yn euog o fod ag arf ymosodol yn ei feddiant mewn man cyhoeddus ac o ymosod ar berson a thrwy hynny achosi gwir niwed corfforol iddynt.
Mae gan Mr Sultan tan 5 Chwefror 2025 i apelio yn erbyn ei waharddiad.