GOC yn atal optegydd dosbarthu Barnet o'r gofrestr

Mae’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheolydd y DU ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu, wedi penderfynu atal Gurmit Bansal, optegydd dosbarthu sydd wedi’i leoli yn Barnet, o’i gofrestr am ddeuddeg mis. 

Canfu un o Bwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddwyn. Mae hyn yn ymwneud â chyflenwi sbectolau rhatach a/neu israddol i gleifion na'r rhai y talwyd amdanynt yn wreiddiol a pheidio ag ad-dalu'r gwahaniaeth yn y pris i gleifion.

Mae gan Mr Bansal tan 25 Mawrth i apelio yn erbyn ei waharddiad.