Mae GOC yn ennill gwobr Safon Efydd am Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Rydym yn falch o rannu ein bod wedi ennill gwobr TIDEmark Efydd gan y Rhwydwaith Cyflogwyr ar gyfer Cydraddoldeb a Chynhwysiant (ENEI) i gydnabod ein cynnydd mewn Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant. 

Mae asesiadau TIDE yn ein galluogi i feincnodi ein perfformiad yn erbyn sefydliadau eraill a mesur ein cynnydd o ran meithrin diwylliant cadarnhaol a chynhwysol. 

Enillon ni sgôr cyffredinol o 68%, sy'n gosod y GOC yn ail gam uchaf map ffordd TIDE. Roedd yr adroddiad yn dadansoddi ein cynnydd yn erbyn sawl maes: 

  1. Eich Gweithlu
  2. Strategaeth a Chynllun
  3. Arweinyddiaeth ac Atebolrwydd
  4. Recriwtio ac Atyniad
  5. Hyfforddiant a Datblygiad
  6. Arferion Cyflogaeth Eraill
  7. Cyfathrebu ac Ymgysylltu
  8. Caffael

Amlygodd y gwerthusiad ein cryfder mewn strategaeth a chynllunio EDI, lle cawsom sgôr o 95%. Mae gwerthusiad TIDE yn ein galluogi i nodi'r meysydd penodol y mae angen i ni, fel sefydliad, ganolbwyntio arnynt wrth symud ymlaen. Yn ein hadroddiad ar gyfer 2023/24, y meysydd hyn oedd arweinyddiaeth ac atebolrwydd, hyfforddiant a datblygiad, a chaffael. 

Rydym wedi cwblhau sawl menter fel rhan o’n strategaeth EDI ar gyfer 2020-24 , gan gynnwys hyfforddiant i’r holl staff ar wahaniaethu strwythurol, hyfforddiant i reolwyr ar addasiadau rhesymol, ac rydym wrthi’n gweithio ar ganllaw arddull rheoli sefydliadol. Rydym hefyd wedi dechrau darn o waith parhaus yn edrych ar ein data EDI ac mae hyn, ynghyd â llawer o amcanion eraill, wedi'u hamlinellu yn ein Cynllun Gweithredu EDI 2024-25. 

Er ein bod wedi gwneud rhai newidiadau cadarnhaol hyd yn hyn, rydym yn gwybod bod gwaith i ni ei wneud o hyd. Fel rhan o’n strategaeth gorfforaethol sydd ar ddod ar gyfer 2025-30, byddwn yn cyflwyno strategaeth EDI newydd a fydd yn cwmpasu llawer o’r meysydd uchod drwy ein pedair egwyddor allweddol: 

  1. Bod yn weithredol wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac atal gwahaniaethu; 
  1. Hyrwyddo ac adlewyrchu amrywiaeth; 
  1. Meithrin cynhwysiant a hygyrchedd; a 
  1. Adeiladu diwylliant o hyder mewn EDI. 

Edrychwn ymlaen at barhau â'n gwaith i ddatblygu ein mentrau EDI a sicrhau bod EDI yn rhan annatod o bopeth a wnawn.