Ydych chi wedi ystyried DPP hunan-gyfeiriedig?
Mae Kate Furniss, Rheolwr Gweithrediadau (Addysg a DPP), yn annog cofrestreion i ystyried cynnal DPP hunangyfeiriedig:
Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn perthyn i ddau gategori: DPP a arweinir gan ddarparwr a DPP hunangyfeiriedig. Yn syml, DPP hunangyfeiriedig yw unrhyw ddysgu rydych yn ei wneud, sy’n berthnasol i’ch ymarfer neu ddatblygiad proffesiynol, nad yw’n cael ei gyflwyno gan ddarparwr DPP a gymeradwyir gan y GOC. Os yw'r gweithgaredd hwn yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau newydd, cynnal ac ail-ddilysu'r rhai presennol, neu fyfyrio ar eich ymarfer a diwallu anghenion cleifion, mae hynny'n cyfrif fel DPP hunangyfeiriedig.
Beth yw manteision DPP hunangyfeiriedig?
Mae DPP hunangyfeiriedig yn eich rhoi mewn rheolaeth o'ch datblygiad proffesiynol. Mae'n ffordd hygyrch o ddysgu a gallwch ymgymryd ag ef unrhyw bryd yn ystod y cylch, felly mae'n cyd-fynd orau â'ch cwmpas ymarfer a'ch taith ddatblygu.
Ar ben hynny, gyda chymaint o gofrestreion dan bwysau am amser, gall DPP hunangyfeiriedig fod yn ffordd fforddiadwy o ddatblygu eich sgiliau y gallwch ei ffitio o amgylch amserlen brysur.
Mae ystod eang o weithgareddau yn cyfrif tuag ato, a gallwch eu cyflawni ar draws pob maes - Proffesiynoldeb; Cyfathrebu; Ymarfer clinigol; Arweinyddiaeth ac atebolrwydd; ac (os yw'n berthnasol) y parth Arbenigedd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi elwa o ddysgu gyda chydweithwyr o'r tu allan i'r sector optegol.
Felly beth yw rhai enghreifftiau o DPP hunangyfeiriedig?
Gall gweithgareddau hunan-gyfeiriedig gynnwys gweithio tuag at gymhwyster academaidd neu alwedigaethol, dysgu ffurfiol fel mynychu gweminarau o'r tu allan i'r sector, neu weithgareddau proffesiynol fel darlithio, addysgu, mentora neu oruchwylio.
Mae yna bethau y gallech eu gwneud bob dydd nad ydych yn sylweddoli y gallent gyfrif.
Er enghraifft, ydych chi wedi darllen cyfnodolyn neu erthygl optegol yn ddiweddar?
Gall ymddangos fel mân weithgaredd, ond cyn belled â'i fod wedi cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol a'ch bod yn gallu ei gymhwyso i'ch ymarfer proffesiynol, dyna DPP hunangyfeiriedig sy'n cyfrif tuag at eich cyfansymiau pwyntiau DPP.
Mae adolygiad cymheiriaid a arweinir gan gofrestrydd (yn hytrach nag un a arweinir gan ddarparwr) hefyd yn cyfrif fel DPP hunangyfeiriedig.
Sut mae cofnodi DPP hunangyfeiriedig?
Rhaid i chi logio DPP hunangyfeiriedig trwy eich cyfrif MyCPD a chwblhau datganiad myfyrio. Rydym yn eich cynghori i wneud hyn cyn gynted â phosibl ar ôl y gweithgaredd, er mwyn sicrhau bod y dysgu yn dal yn ffres yn eich meddwl.
Dylech fyfyrio ar sut roedd y DPP yn berthnasol i’ch anghenion datblygiad proffesiynol, yn ogystal â chrynhoi eich dysgu a sut y bydd hyn yn effeithio ar eich ymarfer a’r rhai o’ch cwmpas yn y datganiad myfyrio. Gall unrhyw nodiadau a gymerir yn ystod y gweithgaredd fod yn ffynhonnell tystiolaeth a gellir eu lanlwytho i MyCPD.
Mae swm y DPP hunangyfeiriedig sy’n cael ei gynnal yn cynyddu’n raddol – mae ffigurau o Ionawr 2024 yn dangos bod 8% o’r holl bwyntiau a gofnodwyd yn rhai hunangyfeiriedig, i fyny o 5% yn haf 2023 . Fodd bynnag, byddem yn annog mwy o gofrestreion i ymgymryd ag ef – cofiwch, os ydych wedi dysgu rhywbeth defnyddiol y gallwch ei gymhwyso i'ch ymarfer proffesiynol, gallai'r gweithgaredd hwnnw gyfrif fel DPP hunangyfeiriedig.
Felly beth am fanteisio ar DPP hunangyfeiriedig heddiw?