Ein cynllun strategol

Mae ein strategaeth gorfforaethol ar gyfer 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2030 yn disgrifio’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf i gyflawni ein gweledigaeth o ofal llygaid diogel ac effeithiol i bawb.

Y tri phrif amcan strategol yw:

  • Creu gwasanaethau gofal llygaid tecach a mwy cynhwysol 
  • Cefnogi arloesi cyfrifol ac amddiffyn y cyhoedd 
  • Atal niwed trwy reoleiddio ystwyth 

Lawrlwythwch gopi o'n strategaeth gorfforaethol ar gyfer 2025-30 am ragor o wybodaeth.

Cynllun Busnes 2025-26

Mae ein Cynllun Busnes 202-26 yn nodi blwyddyn gyntaf ein strategaeth gorfforaethol ar gyfer 2025-30. Yn y Cynllun Busnes hwn, rydym yn amlygu rhai o'r rhaglenni gwaith allweddol yr ydym yn bwriadu eu cyflawni eleni er mwyn gwireddu ein gweledigaeth o ofal llygaid diogel ac effeithiol i bawb.

Mae’r cynllun busnes ar gyfer 2025-26 yn dangos sut y byddwn yn diogelu’r cyhoedd ac yn sicrhau y gall cofrestreion gyfrannu at eu galluoedd proffesiynol llawn ar draws pob rhan o’r DU.

Darllenwch Gynllun Busnes 2025-26.

Cynllun Busnes 2025-26 (Cymru)