Byddai'n hawdd digalonni gan ganfyddiadau Arolwg Gweithlu a Chanfyddiadau'r Cofrestrwyr 2025 sy'n dangos lefelau boddhad swydd yn gostwng ac amodau gwaith heriol yn parhau. Er ein bod yn parhau i adrodd ar y canfyddiadau hyn a chanolbwyntio ar fynd i'r afael â'r materion hyn, mae hwn yn gyfnod o gyfle gwych i'r sector, felly mae'n bwysig ein bod yn dathlu'r canfyddiadau cadarnhaol yn yr ymchwil ac yn adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio'n dda.