Ymgynghori ar ein safonau
Fel rhan o’n cenhadaeth i sicrhau bod y cyhoedd yn parhau i gael eu diogelu, lansiwyd adolygiad gennym o’n Safonau Ymarfer ar gyfer Optometryddion ac Optegwyr Cyflenwi a’n Safonau ar gyfer Myfyrwyr Optegol ym mis Ebrill 2023. Cafodd y ddwy set o safonau eu hadolygu ddiwethaf yn 2016.
Trwy ein Hadolygiad Safonau, ein nod yw sicrhau bod ein safonau yn addas i'r diben ac yn adlewyrchu'r cyd-destun presennol y mae cofrestryddion yn ymarfer, myfyrwyr yn cael eu hyfforddi, a busnesau yn gweithredu ynddo. Bydd unrhyw newidiadau i'r safonau hyn yn cael eu hadlewyrchu mewn diwygiadau i'r Safonau ar gyfer Busnesau Optegol lle bo angen.
Yr hyn yr ydym wedi ei wneud
Yn ein blog diwethaf, cyhoeddwyd crynodeb o'n sgyrsiau â rhanddeiliaid . Ers hynny, rydym wedi dadansoddi trawsgrifiadau’r sgyrsiau â rhanddeiliaid a digwyddiadau ymgysylltu eraill, i nodi meysydd i’w diwygio a bylchau yn ein safonau.
Clywsom gan randdeiliaid, gan gynnwys cleifion a’r cyhoedd, fod ein safonau presennol yn gyffredinol dda, ac mae’n bwysig inni gadw’r hyn sy’n gweithio’n dda. Rydym felly wedi canolbwyntio'r diwygiadau arfaethedig ar feysydd y teimlwn y gallent elwa o gael eu cryfhau neu eu diweddaru. Er enghraifft, rydym wedi cryfhau ein disgwyliadau ynghylch gofal cleifion mewn amgylchiadau bregus. Rydym wedi nodi ein dehongliad o 'amgylchiadau bregus' sy'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol, y gallu i reoli iechyd, neu ymdrin â set anodd o ddigwyddiadau bywyd. Byddai ein diwygiadau arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i gofrestryddion fod yn ymwybodol o amgylchiadau cleifion ac ystyried unrhyw wendidau wrth ddarparu gofal optegol diogel ac effeithiol. Dylai'r diwygiadau arfaethedig arwain at welliannau ym mhrofiad cleifion, mynd i'r afael â materion anghydraddoldeb ac adlewyrchu arfer gorau yn y maes hwn.
Yn ogystal â diweddaru a chryfhau'r safonau, rydym hefyd wedi cynnig ychydig o safonau newydd i fynd i'r afael â materion sy'n dod i'r amlwg. Er enghraifft, rydym wedi cynnig gosod safon newydd ddisgwyliadau clir iawn mewn perthynas ag ymddygiad rhywiol. Dylai’r adolygiad arfaethedig leihau unrhyw amwysedd, mynd i’r afael â phryderon am y cynnydd mewn achosion addasrwydd i ymarfer o gamymddwyn rhywiol a dod â’r GOC yn unol â rheoleiddwyr eraill ar y mater hwn.
Gwnaethom ddrafftio'r newidiadau arfaethedig i'r safonau a thrafod y rhain gyda staff y GOC, aelodau'r Cyngor, y Panel Cynghori, a'r Pwyllgor Safonau i brofi ein hymagwedd a chael adborth. Ym mis Rhagfyr, cyflwynwyd y newidiadau arfaethedig i'r Cyngor, a roddodd gymeradwyaeth i ni ymgynghori. Rydym newydd lansio ein hymgynghoriad ar y safonau diwygiedig, ac mae angen inni glywed gennych er mwyn llywio cam nesaf y prosiect Adolygu Safonau.
Sut i gymryd rhan
Mae modd cael mynediad at yr ymgynghoriad drwy ein hwb ymgynghori . Fel arall, os hoffech gael copi PDF neu Microsoft Word o'r ffurflen ymgynghori, anfonwch e-bost atom yn [email protected] g. Mae croeso i chi gyflwyno eich ymateb drwy e-bost, i'r un cyfeiriad.
Mae’r ymgynghoriad ar agor am 12 wythnos, gan gau ar 8 Mai 2024. Rydym yn annog cymaint o randdeiliaid â phosibl i ymateb i’r ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o leisiau’n cael eu clywed.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn, byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau i roi cyfle i randdeiliaid drafod y newidiadau arfaethedig i'n safonau a gofyn unrhyw gwestiynau. Gweler yr amserlen isod a chofrestrwch ar gyfer digwyddiad gan ddefnyddio'r dolenni Eventbrite. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Archebwch eich lle
Dydd Mercher 6ed Mawrth 2024 1pm – 3pm
Pob rhanddeiliad
Archebwch yma
Dydd Iau 7fed Mawrth 2024 6pm – 8pm Myfyrwyr yn unig
Archebwch yma
Dydd Mawrth 19eg Mawrth 2024 10am – 12pm
Pob rhanddeiliad
Archebwch yma
Dydd Mercher 17eg Ebrill 2024 6pm – 8pm
Pob rhanddeiliad
Archebwch yma
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y prosiect Adolygu Safonau neu'r ymgynghoriad ar ein safonau, cysylltwch â [email protected] .