Gwneud cais am ffi adnewyddu incwm isel

Ydych chi'n gymwys i gael ffi adnewyddu incwm isel?

Os ydych chi'n optometrydd neu'n optegydd dosbarthu cofrestredig ac yn disgwyl y bydd eich incwm personol gros, ar gyfer y flwyddyn 1 Ebrill - 31 Mawrth, yn llai na £16,000, rydych chi'n gymwys ar gyfer y ffi incwm isel wrth adnewyddu eich cofrestru.

Y ffi cadw incwm isel blwyddyn lawn yw £290. 

Nid yw'r gyfradd incwm isel ar gael i fusnesau (cyrff corfforaethol) neu fyfyrwyr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffi incwm isel a'ch cymhwysedd, cysylltwch â ni yn [email protected] neu ar 020 7580 3898 (opsiwn 1).

Peidiwch â chwblhau'r broses adnewyddu ar-lein cyn i ni eich hysbysu o ganlyniad eich cais am y ffi incwm isel. Os gwnewch hynny, codir ffi adnewyddu llawn arnoch.

Beth yw incwm personol gros? 

Mae incwm personol gros yn cynnwys yr holl incwm o bob ffynhonnell ledled y byd. Nid yw'n ymwneud ag incwm o weithgareddau sy'n gysylltiedig ag optometreg neu opteg ddosbarthu yn unig. Mae'n cynnwys, er enghraifft, pensiynau, buddsoddiadau, tâl mamolaeth, tâl salwch, ac unrhyw fath o fudd personol. Nid yw'n cynnwys incwm a dderbynnir ar ran rhywun arall, er enghraifft, budd-dal anabledd ar gyfer plentyn/dibynnydd.

A fyddaf yn cael fy arolygu?

Os byddwch yn dewis talu'r ffi incwm isel, mae'n rhaid i chi, ar gais, roi copïau i ni o'ch slipiau cyflog, cyfriflenni banc neu unrhyw ddogfen arall sy'n gysylltiedig â'ch incwm personol gros.

Os asesir bod eich incwm yn fwy na £16,000 neu os nad ydych yn darparu tystiolaeth, rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth ar unwaith (£135). Gallwn ofyn am yr wybodaeth hon unrhyw bryd.

Mae ein Safonau Ymarfer yn cynnwys gofynion ynghylch gonestrwydd, dibynadwyedd a phroffesiynoldeb. Gall gwneud datganiad ffug neu fethu â rhoi gwybod i ni am newidiadau yn eich amgylchiadau ariannol fwrw amheuaeth ar eich addasrwydd i ymarfer.

Sut ydw i'n ymgeisio?

Rhaid i chi gyflwyno cais wedi'i gwblhau yn ogystal â'ch cais adnewyddu.