Safonau ar gyfer Busnesau Optegol

3.2 Mae staff wedi'u hyfforddi'n briodol, yn gymwys ac wedi'u cofrestru

Pam fod angen y safon hon?

Mae'n ofyniad cyfreithiol bod y rhai sy'n cyflawni swyddogaethau cyfyngedig wedi'u cofrestru'n briodol gyda'r GOC neu'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Yn ogystal, mae angen i staff sy'n ymgymryd â rolau eraill yn y busnes optegol gael lefelau addas o hyfforddiant fel nad ydynt yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch neu ymddiriedaeth cleifion. Mae'n hanfodol felly, o safbwynt gofal iechyd a masnachol, bod y busnes yn cymryd rhan ragweithiol wrth sicrhau bod ei staff wedi'u hyfforddi'n briodol, yn meddu ar gymwysterau ac wedi'u cofrestru (lle bo angen). Mae angen i ddysgu unigolyn fod yn gydol oes fel ei fod yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn rhagolygon, technoleg a chwmpas ei broffesiwn, a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i ymarfer. Mae'n bwysig felly bod yr amgylchedd busnes yn un lle mae staff yn teimlo y gallant ddysgu a thyfu. I gyflawni hyn, mae eich busnes:

3.2.1 Ei gwneud yn ofynnol bod gan y rhai sy'n gweithio fel optometryddion ac optegwyr dosbarthu (a myfyrwyr optometryddion ac optegwyr dosbarthu dan hyfforddiant) gofrestriad cyfredol gyda'r GOC a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod hyn yn wir.

3.2.2 Cefnogi ei staff i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu ac i drin cleifion â gofal a thosturi.

3.2.3 Annog staff i ymgymryd â dysgu a datblygu wrth wneud penderfyniadau proffesiynol, fel sy'n briodol i'w rôl.

3.2.4 Paratoi staff newydd i ddeall sut mae gofal cleifion yn cael ei ddarparu yn eich lleoliad busnes penodol.

3.2.5 Gwneud staff yn ymwybodol mai dim ond o fewn terfynau eu cymhwysedd y dylent weithio, a chymryd camau priodol lle nad ydynt yn gwneud hynny.

3.2.6 Darparu system ar gyfer monitro amcanion staff ac anghenion hyfforddi, fel y bo'n briodol.

3.2.7 Yn cefnogi cofrestreion y GOC i fodloni eu gofynion proffesiynol, gan gynnwys Safonau Ymarfer ar gyfer Optometryddion ac Optegwyr Cyflenwi a Safonau ar gyfer Myfyrwyr Optegol a gofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).