- Cartref
- Safonau ac arweiniad
- Safonau ymarfer ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu
- 5. Cadw eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn gyfredol
Safonau ymarfer ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu
5. Cadw eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn gyfredol
5.1 Byddwch yn gymwys ym mhob agwedd ar eich gwaith, gan gynnwys ymarfer clinigol, goruchwylio, addysgu, ymchwil a rolau rheoli, a pheidiwch â chyflawni unrhyw rolau nad ydych yn gymwys ynddynt.
5.2 Cydymffurfio â gofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) y Cyngor Optegol Cyffredinol fel rhan o ymrwymiad i gynnal a datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau trwy gydol eich gyrfa fel gweithiwr optegol proffesiynol.
5.3 Bod yn ymwybodol o arfer da cyfredol, gan ystyried datblygiadau perthnasol mewn ymchwil ac ymarfer clinigol, gan gynnwys technolegau digidol, i lywio'r gofal a ddarperir gennych.
5.4 Myfyrio ar eich ymarfer a cheisio gwella ansawdd eich gwaith trwy weithgareddau megis adolygiadau, archwiliadau, gwerthusiadau neu asesiadau risg. Gweithredu unrhyw gamau sy'n codi o'r rhain.