- Cartref
- Cyhoeddiadau
- Datganiad ar ein hymagwedd o ran addasrwydd i ymarfer ar gyfer cyflwyno dogfennau a hwyluso gwrandawiadau yn ystod argyfwng COVID-19
Datganiad ar ein hymagwedd o ran addasrwydd i ymarfer ar gyfer cyflwyno dogfennau a hwyluso gwrandawiadau yn ystod argyfwng COVID-19
Dogfen
Crynodeb
Mae'r datganiad hwn yn nodi sut y byddwn yn ymdrin ag ymchwiliadau a gwrandawiadau yn ystod y cyfnod brys hwn ac unrhyw addasiadau i'n prosesau o dan Reolau Addasrwydd i Ymarfer 2013 ('y Rheolau').
Wrth gymryd y camau a nodir yn y datganiad hwn, rydym yn rhoi ein hamcan cyffredinol – amddiffyn y cyhoedd – ar flaen ein hymdrechion i barhau i gynnal ein swyddogaethau yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Rydym hefyd yn cydnabod ei bod yn bwysig i gofrestreion ac i bob parti arall sy'n ymwneud â'n hachos addasrwydd i ymarfer, ein bod yn parhau i symud achosion yn ei flaen cyn gynted ag y gallwn.
Wrth wneud hynny, byddwn yn sensitif i unrhyw anawsterau personol ac ymarferol a achosir i bob cyfranogwr achos drwy, er enghraifft, salwch, hunanynysu, cyfyngiadau teithio a chau ysgolion.
Cyhoeddedig
26 Mawrth 2020 (diweddarwyd 1 Mai 2020, 1 Mehefin 2020 a 28 Mai 2021)