- Cartref
- Cyhoeddiadau
- Datganiad ar ôl-ofal lens gyswllt yn ystod argyfwng COVID-19
Datganiad ar ôl-ofal lens gyswllt yn ystod argyfwng COVID-19
Dogfen
Crynodeb
Mae amseroedd ansicr yn golygu y gellir galw ar ein cofrestreion i weithio ar derfynau eu cwmpas ymarfer ac amrywio eu harferion am gyfnodau hir o amser ac mewn amgylchiadau heriol. Er bod cofrestreion yn cael eu hannog i weithio hyd at derfynau eu cymhwysedd, efallai y bydd angen hyfforddiant gloywi a/neu oruchwyliaeth.
Yn y datganiad hwn, rydym yn gobeithio sicrhau ein cofrestreion y byddwn yn eu cefnogi pan fyddant yn gweithredu mewn cydwybod dda, er budd y cyhoedd, gan arfer barn broffesiynol ym mhob un o'r amgylchiadau sy'n berthnasol.
Ynghyd â'r holl reoleiddwyr gofal iechyd eraill, rydym wedi llofnodi datganiad rheoleiddio ar y cyd sy'n cydnabod y bydd angen i gofrestreion weithredu'n wahanol a darparu gofal mewn gwahanol ffyrdd yn ystod argyfwng COVID-19 yn unol â chanllawiau iechyd y Llywodraeth ac iechyd y cyhoedd.
Byddwn yn ystyried hyn wrth gyflawni ein swyddogaethau rheoleiddio ynghyd â'r datganiad canlynol ynghylch darparu ôl-ofal lens gyswllt.
Mae'r gofynion cyfreithiol perthnasol, sy'n berthnasol i gofrestreion a rhai nad ydynt yn gofrestredigion, wedi'u nodi yn y datganiad hwn.
Cyhoeddedig
23 Mawrth 2020 (diweddarwyd 1 Mai 2020 a 28 Mai 2021)