- Cartref
- Newyddion
- Newyddion a datganiadau i'r wasg
- Datganiad ar y cyd gan Brif Weithredwyr rheoleiddwyr statudol gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol - Ionawr 2021
Datganiad ar y cyd gan Brif Weithredwyr rheoleiddwyr statudol gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol - Ionawr 2021
Ym mis Mawrth y llynedd, ar ddechrau pandemig Covid-19, gwnaethom gyhoeddi datganiad i gefnogi ein cofrestreion i ddelio â'r heriau digynsail yr oeddent yn eu hwynebu. Wrth i'r pandemig barhau, gwyddom fod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn parhau i weithio mewn sefyllfaoedd anodd iawn ac o dan bwysau eithafol. Hoffem ddiolch i'r holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol am y gofal y maent wedi parhau i'w ddarparu i gleifion a'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy'r amgylchiadau anodd a heriol iawn hyn.
Wrth i frechlynnau Covid-19 gael eu cynhyrchu a'u dosbarthu, mae rhai o'n cofrestreion yn arwain yr ymdrech i frechu pobl cyn gynted â phosibl, tra bod eraill yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth helpu i drin a gofalu am bobl sydd â'r coronafeirws ac i atal ei ledaeniad. Rydym yn gwybod bod yr ymchwydd presennol mewn achosion yn golygu bod pob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn debygol o wynebu baich cynyddol, ac efallai y byddant yn parhau i fod â phryderon am benderfyniadau y mae angen iddynt eu gwneud er mwyn darparu'r gofal gorau mewn amgylchiadau heriol.
Pan ddechreuodd y pandemig y llynedd, roeddem ni fel rheoleiddwyr proffesiynol ledled y DU, yn nodi sut y byddem yn cyflawni ein rolau yn ystod y cyfnod hwn. Hoffem nodi ein dull gweithredu eto yn y datganiad ar y cyd canlynol, sy'n ailadrodd yr egwyddorion y dywedasom y byddem yn dibynnu arnynt, ac a fydd yn parhau i ddibynnu arnynt wrth i'r pandemig barhau.
Datganiad ar y cyd gan Brif Weithredwyr rheoleiddwyr statudol gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol
Rydym yn cadw cofrestrau gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn cefnogi'r gweithwyr proffesiynol hynny i ddarparu gofal gwell, mwy diogel trwy osod y safonau y mae angen iddynt eu bodloni, i weithredu er budd cleifion a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol bob amser.
Fel gweithwyr proffesiynol cofrestredig, pryder cyntaf yr unigolion ar ein cofrestrau fydd gofalu am eu cleifion a'u pobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn annog gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, gan weithio mewn partneriaeth â'i gilydd a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau, i ddefnyddio eu barn broffesiynol i asesu risg ac i ddarparu gofal diogel wedi'i lywio gan unrhyw ganllawiau perthnasol a'r gwerthoedd a'r egwyddorion a nodir yn eu safonau proffesiynol.
Rydym yn cydnabod, mewn amgylchiadau heriol iawn, y gallai fod angen i weithwyr proffesiynol wyro oddi wrth weithdrefnau sefydledig er mwyn gofalu am gleifion a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein safonau rheoleiddio wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg ac i ddarparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn ystod eang o sefyllfaoedd. Maent yn cefnogi gweithwyr proffesiynol drwy dynnu sylw at yr egwyddorion allweddol y dylid eu dilyn, gan gynnwys yr angen i weithio ar y cyd â chydweithwyr i gadw pobl yn ddiogel, i ymarfer yn unol â'r dystiolaeth orau sydd ar gael, i gydnabod a gweithio o fewn terfynau eu cymhwysedd, a chael trefniadau indemniad priodol sy'n berthnasol i'w harfer.
Rydym yn cydnabod y gall yr unigolion ar ein cofrestrau deimlo'n bryderus ynghylch sut mae cyd-destun yn cael ei ystyried pan godir pryderon am eu penderfyniadau a'u gweithredoedd mewn amgylchiadau heriol iawn. Pan godir pryder am weithiwr proffesiynol cofrestredig, bydd bob amser yn cael ei ystyried ar ffeithiau penodol yr achos, gan ystyried y ffactorau sy'n berthnasol i'r amgylchedd y mae'r gweithiwr proffesiynol yn gweithio ynddo. Byddem hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol am adnoddau, canllawiau neu brotocolau sydd ar waith ar y pryd.
Byddwn yn parhau i gyhoeddi canllawiau proffesiwn penodol i'n cofrestreion i ddarparu cymorth ychwanegol lle bo angen hynny.
Y rheoleiddwyr iechyd a gofal statudol sydd wedi cytuno i'r datganiad hwn yw:
Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol
General Medical Council
General Optical Council
General Osteopathic Council
General Pharmaceutical Council
Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon
Gwaith Cymdeithasol Lloegr