Ymgynghoriad archif 2019-20: Cynllun Strategol Drafft 2020-2027

Caeedig:

17 Jan 2020

Agoredig:

17 Rhagfyr 2019

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn yn flaenorol ar ein hwb ymgynghori. Rydym wedi ei symud yma fel rhan o archifo.

Gofynasom

Gofynnwyd i randdeiliaid am eu barn ar ein cynllun strategol drafft newydd. 

Dywedasoch

Diolch am eich holl adborth. Rydym wedi ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd ac mae hyn wedi ein helpu i gwblhau'r cynllun. 

Mi wnaethom ni

Ar 1 Ebrill 2020 daeth ein cynllun strategol newydd i rym.

Mae ein strategaeth 'Addas ar gyfer y dyfodol' ar gyfer 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2025 yn disgrifio'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf i gyflawni ein gweledigaeth o gael ein cydnabod am ddarparu rheoleiddio o'r radd flaenaf a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.

Mae 2020 wedi bod yn gyfnod digynsail i’r proffesiynau optegol ac nid oeddem yn rhagweld y byddai ein cynllun strategol yn cael ei gyhoeddi o dan amgylchiadau mor eithriadol.

Mae COVID-19 wedi effeithio ar y ffordd rydym yn rheoleiddio ar hyn o bryd a bydd yn sicr yn effeithio ar ddyfodol y proffesiynau optegol ac yn ei dro, ein cynllun strategol. Felly, wrth inni barhau i fonitro’r sefyllfa, byddwn yn ailymweld â’r cynllun hwn ar ôl blwyddyn.

Y tri phrif amcan strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf yw:

  • Cyflwyno arferion rheoleiddio o'r radd flaenaf
  • Trawsnewid gwasanaeth cwsmeriaid
  • Adeiladu diwylliant o welliant parhaus
Ymgynghoriad gwreiddiol

Trosolwg

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn rhanddeiliaid ar ein cynllun strategol drafft, sy’n disgrifio’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y chwe blynedd nesaf o fis Ebrill 2020.

Wrth ddatblygu ein cynllun strategol drafft, rydym wedi ymgynghori ac ystyried adborth gan staff y GOC, Cyngor y GOC a phwyllgorau cynghori. Hoffem yn awr glywed eich barn ar y cynllun drafft i'n helpu i'w gwblhau.

Rydym yn eich annog i ddarllen y cynllun strategol drafft cyfan yn gyntaf cyn ateb y cwestiynau. Byddai’n ddefnyddiol i ni glywed eich barn ar yr holl gwestiynau, ond mae croeso i chi ymateb i gynifer neu gyn lleied ag y dymunwch. Mae cwestiynau’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • Cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd
  • Heriau a chyfleoedd newydd
  • Edrych ymlaen
  • Sut olwg fydd ar lwyddiant?
  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Lawrlwythwch y cynllun strategol drafft yma.

Ein nod yw cyhoeddi’r cynllun strategol terfynol ym mis Mawrth 2020.

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd yr adborth a ddarperir gan ein rhanddeiliaid fel rhan o’r arolwg ymgynghori hwn yn cael ei ddadansoddi ac o ganlyniad, efallai y bydd y canllawiau’n cael eu hegluro, eu diwygio neu eu hehangu.