Ymchwil canfyddiadau cyhoeddus 2026
Crynodeb
Mae'r ymchwil yn dangos hyder uchel a chynyddol mewn gwasanaethau gofal llygaid yn y DU. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hyderus y byddant yn derbyn safon uchel o ofal gan bractis optegydd/optometrydd (94%) ac yn fodlon ar eu profiad cyffredinol o ymweld ag optegydd/optometrydd (89%). Yn y cyfamser, mae mwy o bobl yn cael gofal llygaid arferol, gyda 84% wedi cael prawf golwg yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at anghydraddoldebau parhaus o ran mynediad a phrofiad. Mae pobl sy'n wynebu heriau fel incwm isel neu anabledd, yn ogystal â'r rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ac ardaloedd mwy difreintiedig, yn nodi hyder is ac yn llai tebygol o fod wedi cael profion llygaid yn ddiweddar. Mae cost hefyd yn parhau i fod yn rhwystr, yn enwedig pris sbectol, lensys cyffwrdd ac archwiliadau llygaid.