- Cartref
- Safonau
- Safonau ymarfer ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu (yn weithredol o 1 Ionawr 2025)
- 9. Sicrhau bod goruchwyliaeth yn cael ei chyflawni'n briodol ac yn cydymffurfio â'r gyfraith
Safonau ymarfer ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu
9. Sicrhau bod goruchwyliaeth yn cael ei chyflawni'n briodol ac yn cydymffurfio â'r gyfraith
Mae hyn yn berthnasol i oruchwylio hyfforddeion cyn-gofrestru a chydweithwyr anghofrestredig sy'n ymgymryd â gweithgareddau dirprwyedig. Rhennir y cyfrifoldeb i sicrhau nad yw goruchwyliaeth yn peryglu gofal a diogelwch cleifion rhwng y goruchwyliwr a'r rhai sy'n cael eu goruchwylio. Mae goruchwyliaeth ddigonol yn gofyn i chi:
9.1 Bod yn ddigon cymwys a phrofiadol i gyflawni'r swyddogaethau yr ydych yn eu goruchwylio.
9.2 Dim ond dirprwyo i'r rhai sydd â chymwysterau, gwybodaeth neu sgiliau priodol i gyflawni'r gweithgaredd dirprwyedig.
9.3 Bod ar y safle, mewn sefyllfa i oruchwylio’r gwaith a wneir ac yn barod i ymyrryd os oes angen er mwyn diogelu cleifion.
9.4 Cadw cyfrifoldeb clinigol am y claf. Wrth ddirprwyo rydych yn cadw'r cyfrifoldeb am y dasg ddirprwyedig ac am sicrhau ei bod wedi'i chyflawni i'r safon briodol.
9.5 Cymryd pob cam rhesymol i atal niwed i gleifion o ganlyniad i weithredoedd y rhai sy'n cael eu goruchwylio.
9.6 Cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol sy'n llywodraethu'r gweithgaredd.
9.7 Sicrhau bod manylion y rhai sy'n cael eu goruchwylio neu'n cyflawni gweithgareddau dirprwyedig yn cael eu cofnodi ar gofnod y claf.