Safonau ymarfer ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu

8. Cynnal cofnodion cleifion digonol

8.1 Cynnal cofnodion cleifion clir, darllenadwy a chyfoes sy'n hygyrch i bawb sy'n ymwneud â gofal y claf.

8.2 Cofnodwch y wybodaeth ganlynol o leiaf:

  • 8.2.1 Dyddiad yr ymgynghoriad.
  • 8.2.2 Manylion personol eich claf.
  • 8.2.3 Y rheswm am yr ymgynghoriad ac unrhyw amod cyflwyno.
  • 8.2.4 Manylion a chanfyddiadau unrhyw asesiad neu arholiad a gynhaliwyd.
  • 8.2.5 Manylion unrhyw driniaeth, atgyfeiriad neu gyngor a ddarparwyd gennych, gan gynnwys unrhyw gyffuriau neu gyfarpar a ragnodwyd neu gopi o lythyr atgyfeirio.
  • 8.2.6 Caniatâd a gafwyd ar gyfer unrhyw archwiliad neu driniaeth.
  • 8.2.7 Manylion pawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad optegol, gan gynnwys enw a llofnod, neu ddull adnabod arall o'r awdur.