Safonau ymarfer ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu

6. Cydnabod a gweithio o fewn eich terfynau cymhwysedd

6.1 Cydnabod a gweithio o fewn terfynau eich cwmpas ymarfer, gan ystyried eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad.

6.2 Gallu nodi pryd y mae angen i chi atgyfeirio claf er budd iechyd a diogelwch y claf a gwneud atgyfeiriadau priodol.

6.3 Sicrhewch fod gennych y cymwysterau gofynnol sy'n berthnasol i'ch ymarfer.

6.4 Deall a chydymffurfio â gofynion cofrestru gyda'r Cyngor Optegol Cyffredinol a'r rhwymedigaethau cyfreithiol o gyflawni unrhyw swyddogaethau a gyfyngir gan y gyfraith, ee, profi golwg a chyflenwi offer.