Safonau ymarfer ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu

13. Dangos parch at degwch i eraill a pheidiwch â gwahaniaethu

13.1 Parchu urddas claf, gan ddangos cwrteisi ac ystyriaeth.

13.2 Hyrwyddo cydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a bod yn gynhwysol yn eich holl ymwneud â chleifion, y cyhoedd, cydweithwyr, ac eraill y mae gennych berthynas broffesiynol â nhw. Peidiwch â gwahaniaethu ar sail nodweddion a nodir mewn deddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol.

13.3 Sicrhau nad yw eich credoau a'ch gwerthoedd crefyddol, moesol, gwleidyddol neu bersonol yn rhagfarnu gofal cleifion. Os bydd y rhain yn eich atal rhag darparu gwasanaeth, sicrhewch eich bod yn cyfeirio cleifion at ddarparwyr priodol eraill.

13.4 Parchu sgiliau a chyfraniadau cydweithwyr, ac ymatal rhag gwneud sylwadau diangen neu ddilornus a allai wneud i glaf amau cymhwysedd, sgiliau neu addasrwydd i ymarfer eich cydweithwyr. Mae hyn yn berthnasol i gyfathrebiadau cyhoeddus, preifat ac ar-lein. Os oes gennych bryderon am addasrwydd cydweithiwr i ymarfer, cyfeiriwch at safon 11.

13.5 Bod yn ymwybodol o sut y gallai eich ymddygiad eich hun ddylanwadu ar gydweithwyr a myfyrwyr a dangos ymddygiad proffesiynol bob amser.

13.6 Cefnogi cydweithwyr a chynnig arweiniad pan fyddant wedi nodi problemau gyda'u perfformiad neu eu hiechyd neu eu bod wedi gofyn am eich cymorth, ond bob amser yn rhoi buddiannau a diogelwch cleifion yn gyntaf.

13.7 Ystyried ac ymateb i anghenion cleifion ag anabledd, a chleifion mewn amgylchiadau bregus, a gwneud addasiadau rhesymol i’ch ymarfer er mwyn darparu ar gyfer y rhain a gwella mynediad at ofal optegol.

13.8 Herio cydweithwyr os yw eu hymddygiad yn wahaniaethol a bod yn barod i adrodd am ymddygiad sy'n gyfystyr â cham-drin neu wadu hawliau claf neu gydweithiwr, neu a allai danseilio diogelwch cleifion.