- Cartref
- Safonau
- Safonau ymarfer ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu (yn weithredol o 1 Ionawr 2025)
- 10. Cydweithio â chydweithwyr er budd cleifion
Safonau ymarfer ar gyfer optometryddion ac optegwyr dosbarthu
10. Cydweithio â chydweithwyr er budd cleifion
10.1 Cydweithio â chydweithwyr yn y proffesiynau optegol ac ymarferwyr gofal iechyd eraill er budd gorau eich cleifion, gan sicrhau bod eich cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol.
10.2 Atgyfeirio claf dim ond pan fo cyfiawnhad clinigol dros hyn, wedi’i wneud er budd y claf ac nad yw’n peryglu gofal neu ddiogelwch claf. Wrth wneud neu dderbyn atgyfeiriad rhaid bod yn glir i'r ddau barti dan sylw pwy sy'n gyfrifol am ofal y claf.
10.3 Sicrhau bod gan yr unigolion neu'r sefydliadau hynny yr ydych yn cyfeirio atynt y cymwysterau a'r cofrestriad angenrheidiol fel nad yw gofal cleifion yn cael ei beryglu.
10.4 Sicrhau bod gwybodaeth cleifion yn cael ei rhannu'n briodol ag eraill, a bod cofnodion clinigol yn hygyrch i bawb sy'n ymwneud â gofal y claf.
10.5 Os bydd anghytundeb rhwng cydweithwyr, ceisiwch ddatrys y rhain er budd y claf.