- Cartref
- Safonau
- Safonau ar gyfer myfyrwyr optegol (yn weithredol o 1 Ionawr 2025)
- 9. Cydweithio â'ch cyfoedion, tiwtoriaid, goruchwylwyr, neu gydweithwyr eraill er budd cleifion
Safonau ar gyfer Myfyrwyr Optegol
9. Cydweithio â'ch cyfoedion, tiwtoriaid, goruchwylwyr, neu gydweithwyr eraill er budd cleifion
9.1 Cydweithio â’ch cymheiriaid, tiwtoriaid, goruchwylwyr, cydweithwyr eraill yn y proffesiynau optegol, ac ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill er budd gorau eich cleifion, gan sicrhau bod eich cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol.
9.2 Sicrhau bod gwybodaeth cleifion yn cael ei rhannu'n briodol ag eraill, a bod cofnodion clinigol yn hygyrch i bawb sy'n ymwneud â gofal y claf.
9.3 Os bydd anghytundeb rhyngoch chi, eich tiwtor, eich cyfoedion neu gydweithwyr eraill, sicrhewch nad yw'r rhain yn effeithio ar ofal y claf a cheisiwch eu datrys er budd y claf.