- Cartref
- Safonau
- Safonau ar gyfer myfyrwyr optegol (yn weithredol o 1 Ionawr 2025)
- 8. Sicrhau bod goruchwyliaeth yn cael ei chyflawni'n briodol ac yn cydymffurfio â'r gyfraith
Safonau ar gyfer Myfyrwyr Optegol
8. Sicrhau bod goruchwyliaeth yn cael ei chyflawni'n briodol ac yn cydymffurfio â'r gyfraith
Rhennir y cyfrifoldeb i sicrhau nad yw goruchwyliaeth yn peryglu gofal a diogelwch cleifion rhwng y goruchwyliwr a'r hyfforddai. Wrth gael eich goruchwylio:
8.1 Rhaid i chi gael eich goruchwylio gan rywun sydd wedi'i gymeradwyo gan eich cyflogwr neu ddarparwr hyfforddiant yn unig.
8.2 Sicrhewch fod eich goruchwyliwr yn y safle, mewn sefyllfa i oruchwylio'r gwaith yr ydych yn ei wneud a'i fod yn barod i ymyrryd os oes angen er mwyn amddiffyn cleifion.
8.3 Eich goruchwyliwr sy'n cadw cyfrifoldeb clinigol am y claf.
8.4 Cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol sy'n llywodraethu'r gweithgaredd.